CLA261 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Rhan 6 (adrannau 58 i 80) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch pwyllgorau trosolwg a chraffu awdurdodau lleol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru.
Mae'r Rheoliadau hyn, a gaiff eu gwneud o dan adrannau 58 a 172(6) o'r Mesur, yn caniatáu i ddau awdurdod lleol neu ragor benodi cydbwyllgor trosolwg a chraffu i lunio adroddiadau neu wneud argymhellion i unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau neu eu gweithrediaethau ynghylch materion sy'n effeithio ar eu hardaloedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Ceir tri chroesgyfeiriad anghywir yn y Rheoliadau -
(a) yn rheoliad 13(4) dylid cyfeirio at reoliad 12(3), nid 12(4);
(b) yn rheoliad 15(1)(a) dylid cyfeirio at reoliad 13, nid 12; ac
(c) yn rheoliad 15(1)(b) dylid cyfeirio at reoliad 14, nid 13
Ymddengys mai problemau technegol gyda thracio newidiadau fu’n gyfrifol am hyn. Mae’n amlwg beth ddylai’r cyfeiriadau cywir fod, felly maent yn briodol i’w cywiro wrth gyhoeddi’r Rheoliadau.
[Rheol Sefydlog 21.2(vi) – drafftio diffygiol.]
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mai 2013